Pont Tŷ Newydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:12, 5 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont Tŷ Newydd ym mhlwyf Llanaelhaearn . Fe'i hatgyweiriwyd ym 1834 i gynllun gan William Thomas, syrfewr y sir, gan William Roberts o Lanystumdwy. Y gost oedd £27.10.0c, ac oedd y swm hwnnw i dalu hefyd am ailwneud 200 llath o fetlin ar y ffordd. Diddorol yw sylwi fod William Roberts, er yn grefftwr, yn methu llofnodi ei enw ar y contract, gan wneud croes yn ei le.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XPlansB/71