Pont Tyddyn Drain

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:44, 5 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont Tyddyn Drain ym mhlwyf Llanaelhaearn

Fe'i hailadeiladwyd ym 1836 i ddyluniad gan William Thomas, syrfewr y sir, ac roedd y contract yn cynnwys ailwneud y lôn a'i hailwynebu gyda metelu newydd 6" o drwch am 100 llath o bobtu'r bont a chodi waliau newydd. Y contractor oedd John Prichard, Trefair, Abergwyngregin. Diddorol yw sylwi mai'r gŵr a safodd fechnïaeth (sef rhoi gwarant dros ddilysrwydd y contractor) oedd William Jones, tafarnwr o Dyddyn Drain. Cost y gwaith oedd £34.3.0c, i gynnwys cadw'r gwaith mewn cyflwr da am gyfnod o 7 mlynedd.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XPlansB/49