Y Brodyr Francis
Cerddorion oedd Griffith ac Owen Francis (Y Brodyr Francis).
Ganwyd y ddau yng Nghwm Pennant, yn blant i William a Mary Francis. Roedd y ddau frawd yn ennill eu bywoliaeth trwy weithio yn y chwarel. Buodd Griffith (1876-1939) yn ysgrifennu barddoniaeth, a chyhoeddodd Telyn Eryri, sef cyfres o ganeuon am fywyd caled chwarelwyr a thyddynwyr eu hardal. Buodd Owen (1879-1939) yn ysgrifennu caneuon, a chyhoeddwyd llawer o waith y ddau frawd ym mhapur newydd Y Genedl Gymreig. Roedd y ddau yn perfformio mewn nifer o gyngherddau Cymreig yn ystod eu gyrfaoedd, yn aml iawn gyda’u gilydd. Buodd y ddau farw yr ‘run flwyddyn yn 1939; Owen ar 6ed Ebrill 1939, a Griffith ar 13 Mehefin 1939.