Capel Gosen (A), Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:33, 25 Mawrth 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel Annibynnol ym mhentref Y Groeslon yw’r Capel Gosen.

Cychwynnwyd yr achos gan David Griffith, Foel, ym 1843, a rhentodd dŷ yn Rhosnennan fel man addoli, ond ymfudodd i America ym 1845. Roedd George Rhydero wedyn yn gefnogol iawn. Cafwyd rhodd o dir gan un Catherine Hughes, a chodwyd capel a enwyd Gosen ym 1849. Nid y capel presennol oedd hwnnw, fodd bynnag, ond yr adeilad a alwyd wedyn yn Gosen Bach neu Church Room (gan i'r Eglwys ei ddefnyddio fel man cyfarfod ger y Ficerdy. Nid oedd erioed yn achos cryf yn ôl pob sôn, ond trwy ei gysylltu achapel arall, Capel Pisgah (A), Carmel, sicrhawyd gwasanaeth gweinidog.[1]

Adeiladwyd Capel newydd yn nes i ganol y pentref tua 1899.[2].

Gwerthwyd y capel yn 2018, gan nad oedd yn ddiogel i'w ddefnyddio ar gyfer oedfaon. Roedd y gynulleidfa wedi bod yn addoli yn Neuadd Goffa'r Groeslon ers rhai blynyddoedd erbyn hynny, ond mae'r achos yn parhau, yr unig achos crefyddol sydd ar ôl yn y Groeslon.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. T. Rees a J. Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, (Lerpwl, 1873), Cyf. 3, tt.233-4
  2. Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol