Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:21, 25 Mawrth 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dosbarth Ysgol Sul, Brynrhos, tua 1890. Yr athro: Robert Jones, Tal-y-llyn. Yn sefyll yn y cefn, o'r chwith: Mary Ann Jones, Rhandir; Miss Grey; ?;? Yn eistedd ar law chwith yr athro: Jane Williams, Tyddyn Meinsier; Elizabeth Roberts, Uwchlaw'r Rhos.
Te parti Ysgol Sul Brynrhos, tua 1897

Roedd Capel Brynrhos yn gapel a wasanaethai ran uchaf pentref Y Groeslon. Fe'i agorwyd ym 1880, ac ym 1900 agorwyd festri ar draws y ffordd iddo. Cyfansoddodd y Prifardd Tom Huws (yn wreiddiol o'r Groeslon) gerdd i ddathlu ei ganmlwyddiant ym 1980.[1] Yn y diwedd, gwerthwyd y capel (a drowyd yn dŷ), gan addasu'r festri'n gapel hynod cyfforddus a chlyd. Fe'i gaewyd fis Gorffennaf 2018, gyda'r aelodau'n symud i gartref ysbrydol newydd, sef Capel y Groes (MC), Pen-y-groes. Mae'r enw'n barhau (2019) yn Cymdeithas Lenyddol Brynrhos, a arferai gwrdd bob bythefnos trwy'r gaeaf yn y festri (wedyn y capel) nes i'r capel gau ym 2018, pan symudwyd y cyfarfodydd i Neuadd Goffa'r Groeslon. Mae plac i goffáu meibion Brynrhos a farwodd yn y rhyfel mawr wedi ei adleoli i ffrynt y neuadd.[2]

Tua 1999, ysgrifennodd Eluned Jones, gynt o Dyddyn Minsier, ei hatgofion o'r capel yn y 1920au a 30au, ac fe ddyfynnir ohonynt isod:


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XM/6665/74
  2. Gwybodaeth bersonol a lleol