Cilfechydd
Tyddyn o’r enw Cilfechydd, Y Waunfawr
Cyfeiria Glenda Carr yn ei hastudiaeth ddarllênadwy, ddeallus a dibynadwy Hen Enwau at annedd o’r enw Cilfechydd rhwng y Waunfawr a Betws Garmon. Nodir bod ‘cilfechydd’ yn cynrychioli lluosog ‘cilfach’. Cynnig arall sydd gennyf am yr ystyr. Yn gyntaf, ffurf luosog anarferol yw ‘cilfechydd’. Digwydd y ffurf ym Meibl William Morgan (1588, Doeth Sol xvii. 13). Yn rhyfedd ddigon ceir y lluosog arferol ‘cilfachau’ yn Job (xxxix. 8). Hyd y gwn i dyma’r unig waith y cawn y lluosog hwn - tybed ai mympwy (neu gamgymeriad) William Morgan ei hun sy’n gyfrifol. Byddai’n ddiddorol gwybod rhagor. Gellir cael argraff glir o leoliad y fferm yma[1]. Cliciwch ar ‘satellite’ am lun eglurach. Ar ‘getamap’ yr Arolwg Ordnans gellir ei weld hefyd (SH525586)[2]. Wn i ddim a yw’r lleoliad yn cyfateb i’r syniad o gilfachau. Ni welaf ond llethrau a dolydd ac mae’r fferm ger lôn weddol brysur ac ar un o’r prif ffyrdd trwy Eryri. Fyddwn i wrth gwrs ddim yn cynnig ei bod yn briffordd yn yr oesoedd canol. Onid llecynnau mwy diarffordd a gynrychiolir gan ‘Gilfach’?” I dorri llith hir a chynhwysfawr yn fyr mae Guto Rhys yn cynnig "mai cil+ Mechydd sydd yma, enw personol. Yn wir digwydd cil + enw personol lawer gwaith, Cil Ddewi (Fawr), Cil Dyfnog, Cil Gwgan (=Gwgon??), Cil Gwrgan, Cil Hernin, Cil Ifor, Cil Owen, Cil Seiriol, Cil Wnwg (< Gwynnog ??) - oll yn AMR. Awn i ddim i daeru mai enwau personol yw pob un ond digwyddant oll yn WCD[1]. Mae’n ddigon i ddangos bod y cynnig yn ddichonadwy. Tybed faint ohonynt sy’n seintiau. Mae encilio i fan anghysbell yn nodwedd (ddealledig) o seintiau cynnar. Tybed a oes yma gapeli".[2][3]