Pont Faen (Clynnog Fawr)
Saif Pont Faen a ailadaeiladwyd ym 1834 ym mhlwyf Clynnog Fawr ger Hendre-bach i ddyluniad gan William Thomas, Pwllheli, syrfewr y sir ar y pryd. Yr adeiladydd oedd Henry Jones, saer maen anlythrennog o Bwllheli am y swm o £41. Roedd gwaelod y sylfeini i fod o leiaf 2' o dan lefel y dŵr, gyda waliau 2' o drwch wedi eu gwneud o gerrig.[1]
Codwyd y Bont Faen bresennol o'r newydd ym 1853 wedi i'r bont gael ei chwalu mewn llifogydd, 12 Rhagfyr 1852. Cost y bont oedd £130, ac fe'i dylunwyd gan Thomas Lloyd, syrfewr y sir. Yr adeiladydd a gontractwyd ar gyfer y gwaith oedd Owen Pritchard, Bontnewydd, saer maen, oedd i fod i gwblhau'r gawith erbyn 1 Medi 1853.[2] Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma