Côr Meibion Dyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:18, 17 Chwefror 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Côr Meibion Dyffryn Nantlle ym Mhen-y-groes, ym 1932, a blynyddoedd celyd y dirwasgiad ym mro'r chwareli a fu'n grud i'r côr.

Gan fod gwaith yn brin ac oriau hamdden yn hir, penderfynodd criw o ddynion ieuanc mai da o beth oedd dod at eu gilydd i ganu - er fod canu yn anodd a'r dyfodol mor ansicr.

Gwahoddwyd C. H. Leonard, brodor o Rydaman a ddaeth yn athro Ffiseg i Ysgol Ramadeg Pen-y-groes ym 1922, i arwain y côr. Trwy ei ymroddiad a'i drylwyredd ef yn anad neb, y tyfodd y côr yn gymdeithas glos, ac yn rhan anatod o fywyd Dyffryn Nantlle. Fe elwid y côr weithiau yn "Gôr Leonard", ar ôl yr arweinydd cynnar.

Wedi ychydig o gystadlu llwyddiannus ym mhrif wyliau'r genedl yn y blynyddoedd cynnar, canolbwyntiodd yr arweinydd ar adeiladu "repertoire" gyfoethog i'r côr oedd yn cynnwys 22 o leisiau. Bu i'r aelodau feistroli caneuon Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Lladin, Eidaleg yn ogystal â rhai Saesneg a Chymraeg, o dan ei arweiniad.

Ym 1934 gwahoddwyd y côr i ddarlledu, ac erbyn 1969 gwnaed i 300 o ddarllediadau, yn ogystal â thelediadau a chyngerddau ym mhrif drefi a phentrefi Cymru a Lloegr. [1]

Ceir cofnod yn y Radio Times am gyngerdd a ddarlledwyd ar 8 Mawrth 1937, fel a ganlyn:

Arweinydd, C. H. Leonard gyda W. H. J. Jenkins (ffidil) o Sinema'r Plaza, Penygroes.[2]

Sinema'r Plaza oedd unig sinema'r cwmwd; fe'i lleolid y tu ôl i dafarn y Victoria yng nghanol Pen-y-groes.


Ar ôl dyddiau C.H. Leonard, arweinid y côr gan Arthur Wyn Parry, ac wedyn gan Eurgain Eames, sydd yn dal wrth yr awennau.[3]

Cyfeiriadau