Melin Lleuar

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:19, 12 Chwefror 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ceir cyfeiriad at Felin Lleuar mewn dogfen dyddiedig 1674, lle mae'n cael ei rhestru ymysg eiddo Ystad Lleuar. Melin falu grawn ar lan afon oedd hi, ac mae'n debyg mai sefyll nid nepell o blasty Lleuar Fawr yr oedd hi ar yr Afon Llyfnwy, gan y disgrifir lleoliad y felin fel un ym mhlwyf Llanllyfni.[1] Nid yw safle Melin wlân Glan-yr-afon ymhell, a safai ar lan ogleddol Afon Llyfnwy lle mae'n ffurfio ffin rhwng plwyfi Clynnog Fawr a Llanllyfni; ond rhaid disgwyl am dystiolaeth bellach cyn ystyried 'Melin Lleuar' a 'Melin Glan-yr-afon' fel yr un un.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/7551.