Ebenezer Thomas (Eben Fardd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:25, 11 Chwefror 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgolfeistr a bardd oedd Ebenezer Thomas (Eben Fardd) (Awst 1802 - 17 Chwefror 1863).

Ganed Ebenezer Thomas yn Nhan-lan, ger Llangybi i Thomas Williams a Catherine Prys. Gwehydd oedd ei dad ac roedd ef a'i wraig yn aelodau ffyddlon yn y Seiat Fethodistaidd ym Mhencaenewydd. Ymunodd Eben â'r seiat ei hun yn 1811. Cafodd addysg gynnar mewn ysgolion yn Llangybi ac Abererch a dysgodd grefft ei dad yn ogystal. Aeth ymlaen wedyn i gael addysg bellach mewn ysgol yn Nhudweiliog ond pan fu farw ei frawd, Evan, ym 1822 dychwelodd i fro ei febyd i ofalu am ysgol a gadwai Evan yn Llangybi.

Dechreuodd ymhel â barddoniaeth cyn bod yn 15 oed ac roedd wedi dod i adnabod dau o brifeirdd y cwmwd, Dewi Wyn o Eifion a Robert ap Gwilym Ddu, erbyn hynny. Ei enw barddol cynnar oedd Cybi o Eifion a dyna a geir wrth ei gerddi cynharaf. Ym 1824 enillodd gadair Eisteddfod Powys am ei awdl '‘Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniad'’.Mae hon yn un o awdlau mwyaf adnabyddus y19g a cheir ynddi ddarnau cynhyrfus a dramatig iawn.

Ym 1827 symudodd i Clynnog Fawr i gadw ysgol ar gais Hugh Williams, ficer y plwyf, yn y rhan o'r eglwys a elwir yn Gapel Beuno. Priododd ym 1830 gyda Mary Williams, Caerpwsan, Clynnog Fawr a ganwyd iddynt dair merch ac un mab. Byddai ei wraig yn pobi bara a chadw siop a byddai Eben yntau yn rhwymo llyfrau a gwneud cyfrifon i bobl i ychwanegu at ei incwm fel ysgolfeistr. Yn ddiweddarach bu'n cadw post yn y pentref hefyd. Ym 1856 bu bron i Eben Fardd symud i Gaernarfon pan glwodd fod swydd lewyrchus postfeistr wedi dod yn rhydd, ond er iddo ofyn i'r Arglwydd Newborough ddefnyddio ei dylanwad ar ei ran, nid oedd Newborough yn fodlon gwneud hynny a ni chafodd Eben y swydd. [1]Yn fuan ar âl iddo symud i Glynnog dechreuodd gadw dyddiadur a chyflawnodd yr orchwyl honno bron yn ddi-dor wedyn tan flynyddoedd olaf ei oes. Mae'r dyddiaduron hyn yn ffynhonnell eithriadol bwysig o wybodaeth am amgylchiadau'r cyfnod, yn ogystal â thaflu goleuni ar amgylchiadau personol y bardd a'i deulu. Roedd Eben yn arw am ddiod er sawl ymgais i ddiwygio. Dioddefai'n gyson oddi wrth bruddglwyfni hefyd a phoenai'n aml ynghylch cyflwr ei enaid. Dioddefai ef a'r teulu oddi wrth salwch blin a chyson a cheir disgrifiadau o rai o feddyginiaethau'r oes ar dudalennau'r dyddiaduron hefyd. Cyhoeddwyd detholiad helaeth ohonynt gan E.G. Millward ym 1968 gyda rhagair sylweddol.[2]

Enillodd Eben Fardd ei ail wobr eisteddfodol bwysig yn Eisteddfod y Gordofigion yn Lerpwl ym 1840 am awdl ar 'Cystudd, Amynedd ac Adferiad Job' ac er nad yw honno'n awdl cystal â 'Dinistr Jerusalem' fe geir rhai darnau dramatig a chain ynddi hithau hefyd.[3]


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/25074, 25878, 25882
  2. E.G. Millward, Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd (Caerdydd, 1968).
  3. Sail cychwynnol yr erthygl gyfan yw'r Bywgraffiadur Cymreig ar-lein, Cofnod ar y Bywgraffiadaur Cymreig