Pont Sarn Wyth-dŵr
Safai Pont Sarn Wyth-dŵr ger Chwarel Tal-y-sarn, plwyf Llandwrog, ar y ffordd heibio Petris a Phlas Dorothea ar y ffordd a arferai redeg o'r hen ffordd trwy'r dyffryn (ger Plas Tal-y-sarn) am Dan'rallt. Fe ail-adeiladwyd hi ym 1855 ar draws yr Afon Llyfnwy, mewn ymateb efallai i lythyr a anfonwyd ym mis Mehefin 1855gan Owen Jones, un o swyddogion y sir, at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, gan ddweud fod yna fawr o ffyrdd a gynhelid gan y plwyfi nad oedd â phont neu gwlfert dros pob un nant, ond bod angen 5 pont sylweddol rhwng Pen-y-groes a Rhyd-ddu.[1]
Roedd un prif fwa a saith sianel lai gan y bont hon Defnyddiodd yr ymgymerwr wâst o’r chwareli lleol i codi a chryfhau’r sarn. John Prichard, Brynhyfryd, plwyf Llanbeblig oedd yr ymgymerwr ym 1855 ac fe gytunodd i wneud y gwaith a gwneud gwaith cynnal a chadw arni am saith mlynedd am y gost o £70.[2]
Fe elwir y bont weithiau ar fapiau'n Bont Wythdir.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma