Pont Ffatri
Saif Pont Ffatri rhwng Pen-y-groes a phentref Llanllyfni ar yr hen briffordd i Dremadog, ger y ffatri wlân ar Afon Llyfnwy. Pont un bwa yw, wedi ei adeiladu o’r newydd ym 1855, yn lle’r un oedd yno gynt. Mae ei huchder yn 12 troedfedd, ac mae’n 30 troedfedd o un ochr i’r llall. Yr un pryd, fe wnaed cryn welliant i raddiant y ffordd gan leddfu’r oleddf rhwng yr afon a’r pentref. Fe’i hadeiladwyd gan William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon. Cost y gwaith oedd £685.[1]
Mae enw'r bont yn cyfeirio at Ffatri wlân Bryn sydd gerllaw.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Caernarfon, XPlansB/27