J.J. Thomas, FGS

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:12, 4 Ionawr 2019 gan Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

J.J. Thomas, F.G.S., Kendal. 1860-1942

Chwarelwr galluog y bu galw mawr am ei gyngor ar faterion daeareg chwareli a mwynfeydd cyn belled â Mecsico a’r Unol Daleithiau. Urddwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas y Daearegwyr (F.G.S.). Fe'i ganed yn Nhŷ Ucha, ardal Rhostryfan yn 1860 a bu'n gweithio yn y chwareli lleol yn hogyn ifanc, ond gadawodd i fynd i fyw at ei ewyrth, Thomas Williams, yn Broughton-in-Furness a mynychodd ddosbarth nos i ddysgu Saesneg. Un o'r Fron Oleu, Rhostryfan oedd Thomas Williams ac roedd yntau wedi gadael yr ardal yn llanc ifanc gan ddod yn berchennog chwarel Ulpha yn nyffryn Duddon yn Ardal y Llynnoedd. Yn drychinebus, bu foddi yn ei chwarel ei hun yn 1880. Symudodd J.J. Thomas i Kendal yn 1886 ac yno y bu weddill ei oes. Yn y man daeth yn brif reolwr ar chwarel Tilberthwaite a gwnaeth ei ffortiwn yno. Bu'n faer Kendal deirgwaith, bu ar Gyngor Sir Westmorland am 46 mlynedd ac yn 1936 fe'i hurddwyd yn Rhyddfreiniwr Bwrdeistref Kendal. Hen lanc ydoedd, nodedig am ei haelioni, ac wedi ei farwolaeth yn 1942 gadawodd symiau o arian i Brifysgol Cymru ac i bentref Rhostryfan. Roedd yr arian i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r tlawd a'r anghenus, i weddwon chwarelwyr, i godi elusendai, i Gapel Horeb a'r Eisteddfod leol. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth J. J. Thomas i weithredu yn ôl ei ddymuniad, ac mae'r pwyllgor wedi rhannu llogau byth ers hynny. Does dim angen elusendai bellach, gwerthwyd y tai i chwyddo'r coffrau, a phrin yw gweddwon chwarelwyr erbyn heddiw, ond mae'r gymuned yn elwa yn flynyddol o'i haelioni. Mae Ysgol Rhostryfan, myfyrwyr a'r henoed yn parhau i dderbyn rhoddion o’r elusen a sefydlodd. <ref.Allan o Lleu tua Chwerfor 2008 gan Dewi Tomos.</ref> Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Neuadd Gymuned Rhostryfan ar 8 Rhagfyr 2007 ac arni yr englyn hwn: Ei galon lawn haelioni - ei ofal

    Ei gyfoeth o'r llechi
 A rannodd â bro ei eni, 
 Arllwys aur er ei lles hi.   
                        Geraint Lloyd Owen


Cyfeiriadau

Nodyn:Allan o ''Lleu'' tua Chwefror 2008 gan Dewi Tomos. Ffynhonnell:

O ysgrif gan Dewi Tomos yn Lleu tua Chwefror 2008.