Dewi Tomos

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:06, 31 Rhagfyr 2018 gan Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dewi Hywel Tomos (1943 – 2012)

Dirprwy brifathro Ysgol Bro Lleu cyn ymddeol, llenor, cenedlaetholwr brwd, hanesydd, naturiaethwr, rhedwr, a cherddwr a ymhyfrydodd yn nhreftadaeth ei fro nes iddo gyfoethogi diwylliant Cymru gyfan. Bu’n weithgar yn yr ymgyrch i sicrhau cymhorthal Cronfa Dreftadaeth y Loteri i adnewyddu Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts yn Rhosgadfan a agorwyd yn 2007 ac ef oedd Cadeirydd brwd y Ganolfan yn ei flynyddoedd olaf. Byddai ei frwdfrydedd a’i ddyfalbarhad yn ysbrydoliaeth i bawb a rhan bwysig o’i weithgareddau fyddai arwain teithiau cerdded i ddosbarthiadau o blant ysgol a grwpiau o oedolion o gwmpas yr aral i’w dysgu am Kate Roberts a’i gwaith a’i chefndir chwarelyddol a’r chwarelwyr a’r tyddynwyr a byd natur, ac yn aml iawn byddai ei ferch, Gwenllian yn mynd gydag ef i ddarllen darnau perthnasol o waith Kate Roberts a llenorion eraill yr ardal. Byddai hithau hefyd yn gyfrifol am nifer fawr o weithgareddau yn y Ganolfan, i blant ac oedolion.

Enillodd nifer o gadeiriau a medalau a gwobrau cenedlaethol ac fe’i hurddwyd yng Ngorsedd Eisteddfod Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Meirion a’r Cyffiniau, 2009, i’r Urdd Ofydd er Anrhydedd.

Cyhoeddodd lyfrau sydd yn drysorfeydd o hanes a thraddodiadau lleol, e.e. Llyfrau Llafar Gwlad 72: Llyfr Lloffion Cae’r Gors, Gwasg Carreg Gwalch, 2009 O Gwmpas y Foel, Gwasg Carreg Gwalch, 2007 The Quarrymen’s Tyddynnod, Gwasg Carreg Gwalch, 2007 Cyfres Broydd Cymru 16: Eryri, Gwasg Carreg Gwalch, 2005 Llyfrau Llafar Gwlad 67: Chwareli Dyffryn Nantlle, Gwasg Carreg Gwalch, Llyfrau Llafar Gwlad 59: Tyddynnod y Chwarelwyr, Gwasg Carreg Gwalch, 2004 Atgof Atgof Gynt, Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes, Cyngor Gwynedd, 1997 Straeon Gwydion, Gwasg Carreg Gwalch, 1990 Crwydro Bro Lleu, Gwasg Carreg Gwalch, 1990

Ganwyd a magwyd ef yng Ngharmel. Gwelfor oedd ei gartref ef a'i wraig, Mair, yn Rhostryfan. Cawsant dri o blant: Gwydion, Rhiannon a Gwenllian.