Catherine Bulkeley

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:25, 27 Rhagfyr 2018 gan Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn ol yr hanes roedd Catrin Bulkeley o Eithinog yn gariad i Rhys o Elernion. Un diwrnod, a Rhys yn marchogaeth i gyfarfod Catrin, cododd storm enbyd. Mentrodd rydio Afon Llyfni ond roedd y llifeiriant yn rhy gryf iddo a'r gwynt yn ei erbyn. Methodd yn glir a chyrraedd y lan ac fe'i boddwyd yn y fan a'r lle er mawr drallod i bawb ac i Catrin yn arbennig.

Yn ddiweddarach codwyd pont ar y safle y digwyddodd y trychineb ac arni'r ysgrifen: "Catring Buckle hath give twenty poundes to mack this brighe 1612".

Yng nghyflawnder yr amser gwisgodd yr ysgrifen a phenderfynodd Ysgol Brynaerau osod llechen ar ganllaw'r bont a thorrwyd y llythrennau gwreiddiol uchod arni i gofnodi'r hanes.