W. Gilbert Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:02, 21 Hydref 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgolfeistr a hanesydd lleol (20 Ionawr 1874- 10 Hydref 1966).

Ganed William Gilbert Williams yn Nhŷ’r Capel, Rhostryfan, Llanwnda. Roedd yn fab i John Williams, chwarelwr a Catherine Jones. Buodd yn gweithio yn Chwarel Cilgwyn ac wedyn aeth ymlaen i fod yn athro, ac wedyn i’r Coleg Normal ym Mangor rhwng 1892-1894. Roedd yn Ysgolfeistr yn ysgol Felinwnda, Llanwnda ac wedyn yn Rhostryfan rhwng 1918 a 1934. Buodd hefyd yn ymwneud llawer â hanes lleol, a derbyniodd gradd M.A. er anrhydedd oddi wrth Prifysgol Cymru am ei gyfraniad i hanes Cymru.