Seidin Tan'rallt

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:10, 19 Hydref 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Seidin ar gyfer llwytho llechi oedd Seidin Tan'rallt ar y lein rhwng Pen-y-groes a Thalysarn. Gwasanaethai chwareli ar ochr dde Dyffryn Nantlle. Fe agorwyd cyn 1904 ond fe'i chaewyd rywbryd tua 1930 mae'n debyg. Un neu ddwy drên nwyddau y dydd fyddai galw yno, ac hynny os oedd angen. Roedd y seidin tua 550 llath cyn ben draw'r lein yng Ngorsaf Nantlle.[1]

Cyfeiriadau:

1.W.G.Rear Branch Lines in North Wales (1986), t.154.