Chwarel Tŷ Mawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:26, 25 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi bychan oedd chwarel Tŷ Mawr, yn agos iawn i dwll Ty'n-y-weirglodd ger Tan'rallt a Nantlle. (SH 4955529).

Roedd gwaith cloddio yno yn yr 1860au, ac roedd o gwmpas 40 o ddynion yn gyflogedig yno yn y cyfnod hwn. Cafodd ei chau yn y 1930au, fel nifer o'r chwareli/tyllau llechi bychan eraill yn yr ardal,[1] ar ol iddi gael ei phrynu gan Chwarel Dorothea[2].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  2. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), t. 332.