Cwmni Nwy Pen-y-groes, Llanllyfni a Dyffryn Nantlle
Roedd Cwmni Nwy Pen-y-groes, Llanllyfni a Dyffryn Nantlle (Penygroes, Llanllyfni and Nantlle Vale Gas Co. Ltd) yn weithredol o 1874-5 o leiaf.[1] Yn y flwyddyn honno, gwahoddwyd tendrau trwy gyfrwng y wasg leol am wneud nwy ar gyfer cwsmeriaid y cwmni. Yr Ysgrifennydd ar y pryd oedd y Parch. W.R. Ambrose, Tal-y-sarn.[2]
Safai'r gwaith nwy yn Nhal-y-sarn i'r de o Gangen reilffordd Nantlle, ychydig cyn yr orsaf. Roedd gan y gwaith seidin bwrpasol er mwyn derbyn glo ac allforio sgil gynnyrch y broses o greu nwy.
Caewyd y gwaith pan ddaeth nwy naturiol trwy bibell i'r ardal, a chwarwyd y gwaith yn llwyr. Ychydig iawn sydd i'w weld heddiw le bu'n sefyll.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma