Chwarel Nantlle Vale

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:01, 24 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi yn Nyffryn Nantlle oedd Chwarel Nantlle Vale, (SH 497526). Fe'i lleolwyd ar ochr ddeuheuol y dyffryn, rhwng Dol-bebin a Chwarel Gwernor, gyferbyn ag adeiladau Tŷ Mawr. Ym 1882, gweithid y chwarel gan Cwmni Chwarel Nantlle Vale. Roedd 20 o chwarelwyr yn gweithio yno a chynhyrchwyd tua 150 tunnell o lechi mewn blwyddyn.[1]

Erbyn tua 1900 roedd wedi ei lyncu gan Chwarel Tŷ Mawr.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry ‘’, (Newton Abbot, 1974), t. 325
  2. Map Ordnans 6" i'r filltir, gol. 1900