Chwarel Hafodlas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:41, 24 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Chwarel Hafodlas (SH 489539) yn un o chwareli cynharaf i agor yn Nyffryn Nantlle, efallai cyn gynted â 1800, ac am hir, George Bettiss oedd y prif bartner o'r 1810au ymlaen. Roedd yn amheus ar y dechrau o adeiladu Rheilffordd Nantlle, ac nid Hafodlas oedd ymysg y chwareli cyntaf i ddefnyddio'r rheilffordd pan iddi agor ym 1828, er i lechi Hafodlas gael eu cludo ar hyd-ddi o Ionawr 1829 ymlaen.[1]

Roedd Hafodlas ymysg y chwareli cynharaf i droi at bŵer ager, er i'w injan bwmpio dŵr wedi torri erbyn 1817.

Caeodd Chwarel Hafodlas oddeutu 1880.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. G.H. Williams, Swn y Trên sy'n Taranu, (Caernarfon, 2018).
  2. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), t. 322.