Seidin Gwaith Nwy Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:36, 23 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adeiladwyd seidin arbennig i wasanaethu gwaith nwy Tal-y-sarn, eiddo Cwmni Nwy Pen-y-groes, Llanllyfni a Dyffryn Nantlle. Mae mapiau Ordnans yn dangos y seidin fel estyniad i'r lein flaenshyntio (headshunt) o iard nwyddau Gorsaf reilffordd Nantlle ym mhen draw cangen Nantlle. Mae'n debyg i'r seidin fod yno ers dyddiau cynharaf y gangen, gan fod y gwaith nwy'n weithredol ym 1876 os nad ynghynt. Roedd mapiau'n dal i'w dangos hyd y 1950au.

Byddai'r seidin yn dod â glo, sef deunydd crai unrhyw waith nwy, i'r gwaith, ac yn cludo oddi yno tar a golosg, sef sgil gynhyrchion nwy.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma