Rheilffordd Sir Gaernarfon
Adeiladwyd y rheilffordd o Gaernarfon i Afon-wen gan gwmni Rheilffordd Sir Gaernarfon.
Yn y dechrau nid oedd cysylltiad gyda changen Rheilffordd Caer a Chaergybi a derfynnai (o 1852 ymlaen) yng Nghaernarfon (ar safle archfarchnad Morrison's heddiw). Rhedai'r cledrau o Afon-wen hyd at Pant (rhwng Frongoch a Chartref Seiont Newydd) am rai blynyddoedd nes i Reilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin uno'r rheilffordd hon a'r gangen o Fangor i Gaernarfon.
Prynodd cwmni Rheilffyrdd Sir Gaernarfon gwmni Rheilffordd Nantlle, gan ddefnyddio rhannau helaeth o drac a thir y cwmni hwnnw er mwyn adeiladu eu lein led safonol (4'8 1/2").