Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon
Roedd Capel Brynrhos yn gapel a wasanaethai ran uchaf pentref Y Groeslon. Fe'i agorwyd ym 1880, ac ym 1900 agorwyd festri ar draws y ffordd iddo. Cyfansoddodd y Prifardd Tom Huws (yn wreiddiol o'r Groeslon) gerdd i ddathlu ei ganmlwyddiant ym 1980.[1]Yn y diwedd, gwerthwyd y capel (a drowyd yn dŷ), gan addasu'r festri'n gapel hynod cyfforddus a chlyd. Fe'i gaewyd fis Gorffennaf 2018.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Gwynedd, XM/6665/7