Owen Griffith Owen (Alafon)
Roedd Owen Griffith Owen (1847-1916), a fabwysiadodd y ffugenw Alafon, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Neiniolen. Cafodd ei eni yn y Pant-glas,. lle roedd ei dad yn cadw tafarn, ond syudodd wedyn i fyw gyda modryb pan oedd yn 12 oed i bentref Carmel. Cychwynnodd weithio yn Chwarel lechi Dorothea, ac wedyn aeth yn glec i Chwarel lechi'r Braich gerllaw. Bu'n flaenor yng Nghapel Carmel o 1874 ymlaen ac ym 1876 cychwynnodd bregethu.[1]
Yn fuan wedyn ddechreuodd astudio ar gyfer y weinidogaeth yn Ysgol Ragbaratoawl Clynnog Fawr, cyn symud i Goleg a Bala. Astudiodd ym Mhrifysgol Caeredin am gyfnod hefyd er na chymerodd radd. Derbyniodd alwad i gapel Ysgoldy, Llanddeiniolen a lle bu gydol ei yrfa.
Bu'n olygydd Y Drysorfa, 1913-16. Cyhoeddodd dwy gyfrol, Cathlau Bore a Nawn, barddoniaeth (1912); a Ceinion y Gynghanedd, ysgrifau, (1915).
Fe'i gladdwyd ym mynwent Bryn'rodyn, ac mae cofeb sylweddo iddo i'w weld yno ger y giât.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma