Ysgol Penfforddelen, Y Groeslon
Ysgol addysg gynradd rhwng pentref Y Groeslon a phentref Carmel oedd Ysgol Penfforddelen, Groeslon. Agorwyd yr ysgol o gwmpas 1873[1]. Yn wreiddiol, cafodd holl blant y fro eu haddysg yno ar hyd eu gyrfa ysgol onibai iddynt ennill yr ysgoloriaeth i ysgol ramadeg Pen-y-groes. Yn nes ymlaen, codwyd ysgolion i'r plant iau yn [Y groeslon a Charmel; yn y man wedyn, sefydlwyd trefn ysgolion cyfun yn y sir, ac aeth holl blant y fro i ysgol uwchradd yn 11 oed, a chaewyd Ysgol Penfforddelen.
Trowyd yr adeilad yn fflatiau, ac mae'n dal i sefyll, ynghyd âthy'r prifathro, ar ochr y lôn i Garmel.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Llyfrau Log Ysgol Gynradd Penfforddelen, Groeslon (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/95 [1873-1962]