Whiteway
[[Delwedd::022.jpg|bawd|de|300px|Bws Bedford OB ger Betws Garmon]]
Roedd Whiteway yn gwmni bysiau gyda'i bencadlys yn y Waunfawr. O.R. Williams oedd y perchennog. Rhedai deithiau o Gaernarfon i Geunant ac i Feddgelert, ac aeth y daith olaf hon trwy ran o Uwchgwyrfai rhwng pont drtos Afon Gwyrfai yn y Waunfawr hyd at bont arall dros yr un afon ger eglwys Betws Garmon. Arferai'r cwmni redeg hen fysiau a ddenai lawer o bobl a ymddiddorai mewn bysiau. Daeth y cwmni i ben tua throad y ganrif.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma