Pont Glan-rhyd
Mae Pont Glan-rhyd yn croesi Afon Rhyd tua chanllath i'r Gogledd o gyffordd ffordd Ffingar ym mhlwyf Llanwnda - wrth gapel Glan-rhyd. Mae'r gefnffordd A487 o Gaernarfon i Borthmadog yn rhedeg drosti. Dichon ei fod yn hanu o gyfnod codi'r ffordd dyrpeg tua 1810. Cyn codi'r bont cafwyd rhyd yma a elwid yn Rhyd-y-dimpan, sy'n cael ei dangos ar rai mapiau cynnar o'r ardal.