Alice Gray Jones (Ceridwen Peris)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:08, 18 Awst 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Alice Gray Jones (1852-1943) yn Llanllyfni, yn ferch i David ac Ellen Jones. Brawd Davidf JOnes oedd y Parch. John Jones, Bryn'rodyn a'i mam yn gyfnither i John Roberts (Iolo Caernarfon). Cafodd ei hyfforddi'n athrawes yng Ngholeg Hyfforddi Abertawe, cyn dychweld i'w hen ysgol, Ysgol Dolbadarn, Llanberis, yn brifathrawes. Priododd y Parch, William Jones, Y Ffor, ym 1881.

Wedi iddi briodi a gorfod rhoi gorau i'w swydd oherwydd hynny (fel yr oedd yn ofynnol yr adeg honno), trôdd at lenydda. Bu'n olygydd Y Gymraes, 1896-1919, pan symudodd i fyw i Gricieth. Ysgrifenodd nifer o lyfrau i blant, gan gynnwys Caniadau Ceridwen Peris (1934). Ysgrifenodd hefyd nifer o werslyfrau ysgol Sul, traethodau dirwestol a phamffled ar foesau merched ifanc.

Bu'n un o sylfaenwyr Undeb Dirwest Gogledd Cymru, ac yn ymgyrchydd brwd dros hawliau merched.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymraeg, 1941-1950, (Llundain, 1970), tt.25-6; Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986), t.304