Richard Jones (Gwyndaf Eryri)
Ganwyd Richard Jones (Gwyndaf Eryri), (1785-1848) yn Erw Ystyffylau, plwyf Llanwnda, yn fab i John a Margaret Jones. Fe'i gladdwyd ym mynwent Llanbeblig. Enillodd ei fara trwy amaethu ac fel saer maen [1] ond daeth i amlygrwyd fel eisteddfodwr llwyddiannus os hunan-addysgiedig. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Caernarfon 1821 am awdl ar y testun Cerddoriaeth, a thlwys y gwyneddigion yn Eisteddfod Llanwrtyd, 1823, am awdl ar Lles Gwybodaeth, ymysg gwobrau eraill. Ym 1818 cyhoeddodd gyfrol o'i farddoniaeth, sef Peroriaeth Awen Roedd hefyd yn gerddor mewn band y mintai o wirfoddolwyr a gynhelid gan yr Arglwydd Newborough.[2]