R. Silyn Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:06, 15 Hydref 2017 gan Robin Owain (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

1871-1930 Pregethwr Methodistaidd Calfinaidd, Bardd, Diwygiwr Cymdeithasol.

Ganwyd ym Mryn Llidiart yn Llanllyfni, a buodd yn chwarelwr yng Nglynnog yn fachgen ifanc. Astudiodd yng Ngholeg y Gogledd (B.A. 1899, M.A. 1901) a’r Bala. Buodd yn weinidog yn Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Lewisham ac yn Nhanygrisiau. Trodd ei sylw at lenyddiaeth bellach ymlaen, ac enillodd y goron yn Eisteddfod Bangor yn 1902 am ei bryddest ‘Trystan ac Esyllt’. Wedi hyn cyhoeddodd ‘Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill’, ac yna 'Telynegion' mewn cyd-weithrediad a W. J. Gruffydd yn 1904. Cyhoeddodd rhagor o weithiau eraill o dan y ffug-enw ‘Rhosyr’. Buodd hefyd yn darlithio yn yr U.D.A ac yng Nghanada dros y mudiad yn erbyn y darfodedigaeth. Aeth ymlaen hefyd i weithio i’r Bwrdd Penodiadau ym Mhrifysgol Cymru, a phan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf – ymdrechodd i gael penodi swyddogion o Gymru yn y lluoedd arfog.

Llyfryddiaeth

...