Plas-yn-Bont

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:22, 13 Awst 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Codwyd plasty Plas-y-bont ym 1612 gan y clerigwr a'r diwinydd Huw Lewis. Dichon fod tŷ cynharach yno, a elwid yn Bodellog ar ôl y trefgordd y safai ynddo. Nid yn y tŷ hwnnw y cafodd Huw Lewis ei fagu, yn fwy na thebyg, gan i'w dad, Lewis ap William, dderbyn brydles 21 mlynedd ar y lle gan ystad y Faenol ym 1584, ugain mlynedd wedi i Huw Lewis gael ei eni. Mae Plas-y-bont yn dal i sefyll heddiw, ychydig lathenni i'r de o lan Afon Gwyrfai, ym mhlwyf Llanwnda.