Huw Lewis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:47, 3 Awst 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Huw Lewis (1562-1634) yn fab teulu Bodellog neu Plas-y-bont ym mhlwyf Llanwnda. Mab ydoedd i Lewis ap William a'i wraig, Agnes ferch William Foxwist o'r Prysgol (plasty bychan ger Caeathro). Huw oedd yr hynaf o bedwar brawd; y lleill oedd Griffith, Richard a John.

Cafodd ei addysg uwch yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, lle yr ymgofrestrodd ym 1582 alle ymddiddorodd yn yr athrawiaeth Brotestanaidd ac mewn llenyddiaeth Gymraeg. fe'i gyfrifid yn eithaf brydyddFel pob dyn graddedig yr adeg honno, cafodd ei ordeinio, gan dderbyn bywoliaeth Llanddeiniolen ym 1590. Tra yno, cyfieithodd llyfr Miles Coverdale, A Spyrytuall and most Precious Pearle teaching all Men to Love and Imbrace the Crosse i'r Gymraeg gyda'r teitl Perl mewn Adfyd a gyhoeddwyd ym 1595. Dyma'r llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu yn Rhydychen. Nid oedd yn gyfieithiad gair-am-air, ond yn hytrach crynhoad a chyfieithiad yn gymysg, gyda rhai adrannau wedi eu hehangu - sydd yn dangos fod Huw Lewis yn ysgolhaig yn ogystal â ieithydd. Dywedir mai ei awydd i ddyrchafu moesau ei gyd-Gymry ac i'w cefnogi i ymarfer â darllen Cymraeg.

Ym 1612, cododd blasty Plas-y-bont ar safle ei hen gartref ar lan Afon Gwyrfai, sydd yn sefyll hyd heddiw.[1]

Fe'i wnaed yn Ganghellor Eglwys Gadeiriol Bangor ym 1608, ac ym 1623 fe olynodd Edmwnd Prys fel rheithor Maentwrog a Ffestiniog.[2]

Ei briod oedd Elen ferch Rhydderch, a chawsant ddau fab, Morgan a William ap Huw Lewis. Bu Elen, fel yntau, farw ym 1634, a chladdwyd y ddau ym mynwent Llanwnda.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.519.
  2. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, (Caerdydd, 1986), tt.345-6.
  3. ywgraffiadur Cymreig, loc.cit.