Huw Lewis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:19, 3 Awst 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Huw Lewis (1562-1634) yn fab teulu Bodellog neu Plas-y-bont ym mhlwyf Llanwnda. Cafodd ei addysg yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, lle ymddiddorodd yn yr athrawiaeth Brotestanaidd. Fel pob dyn graddedig yr adeg honno, cafodd ei ordeinio, gan dderbyn bywoliaeth Llanddeiniolen ym 1590. Tra yno, cyfieithodd llyfr Miles Coverdale, A Spyrytuall and most Precious Pearle i'r Gymraeg gyda'r teitl Perl mewn Adfyd a gyhoeddwyd ym 1595. Dyma'r llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu yn Rhydychen. Nid oedd yn gyfieithiad gair-am-air, ond yn hytrach crynhoad a chyfieithiad yn gymysg, gyda rhai adrannau wedi eu hehangu - sydd yn dangos fod Huw Lewis yn ysgolhaig yn ogystal â ieithydd.

Fe'i wnaed yn Ganghellor Eglwys Gadeiriol Bangor ym 1608, ac ym 1623 fe olynodd Edmwnd Prys fel rheithor Maentwrog a Ffestiniog.[1]

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, (Caerdydd, 1986), tt.345-6.