Seidin Tan'rallt
Seidin ar y lein rhwng Pen-y-groes a Thalysarn oedd hon, a wasanaethai chwareli ar ochr dde Dyffryn Nantlle. Fe agorwyd cyn 1904 ond fe'i gaewyd rywbryd tua 1930 mae'n debyg. Un neu ddwy drên nwyddau y dydd fyddai galw yno, ac hynny os oedd angen, ar eu siwrne ar hyd y gangen o gyfeiriad Pen-y-groes. Roedd y seidin tua 550 llath cyn bendraw'r lein yng Ngorsaf Nantlle.