Gorsaf reilffordd Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:56, 15 Hydref 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio


Dyma unig orsaf ar gangen Nantlle, a redai o gyffordd ar lein Caernarfon - Afon Wen wrth orsaf Pen-y-groes . Mewn gwirionedd, yn Nhal-y-sarn yr oedd yr orsaf ac mae'r adeilad yn sefyll hyd heddiw fel rhan o'r ganolfan gymunedol. Roedd yna seidins helaeth, yn bennaf ar gyfer trosglwyddo llechi a gludid o'r chwareli gan Reilffordd Nantlle. Tua 550 llath cyn cyrraedd gorsaf Nantlle, roedd seidin Tan'rallt lle llwythwyd llechi o chwarel Tan'rallt yr ochr arall i'r dyffryn. Rhedai lein fach o'r chwarel ar draws y dyffryn at y seidin honno.