Pont Lyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:15, 3 Gorffennaf 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont Lyfni yw enw'r bont sy'n cario'r A499, sef hen ffordd dyrpeg o Caernarfon i Bwllheli, dros Afon Llyfnwy.

Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef Pontlyfni.

Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Mae iddi dri bwa, ond mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.[1]

Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2, t.45