Bwlchderwin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:54, 20 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ardal wasgaredig yw Bwlchderwin ar ffordd Clynnog Fawr wedi dringo'r allt o Bant-glas. Nid oes yma'r fath beth â chlwstwr o dai ond bu yma gapel yn un pen, ysgol Eglwysig sef Ysgol Ynys-yr-Arch yn y pen arall a siop mewn gwahanol dai ar wahanol adegau.

Rhai murddunod yn yr ardal ym 1870

Felog Bach, Yr Ochr, Tanychwarel, Y Foel, Cae'r Bwlch, Foel Fechan, Murforwyn Bach (dau dŷ), Pen Isa'r Mynydd, Cefn White, Maes Du, Stabl Goch, Cae Hir (tri thŷ), Cae Mwynan, Cae Crin, Cors-y-wlad (dau dŷ).[1]

Tai/Tyddynnod/Ffermydd yr ardal o tua 1870-1981

Braich-y-foel; Tanychwarel; Terfynau; Derwyn Uchaf (Deuai Griffith Powell â'i gi gydag ef i'r Capel bob amser.); Tan'rallt; Plas Du; Ty'n-y-coed; Rhwngyddwyffordd; Muryforwyn; Gyfelog Ucha (ger Capel Bwlchderwin); Baron Hill; Ty'n-Gors; Ty Newydd; Garreg Wen; Pen Isa'r Mynydd; Ynys-yr-Arch; Llwyngwanadl Ucha; Llwyngwanadl Isa; Ty Glas; Y Gors;Cors-y-wlad.

i'w barhau

Cyfeiriadau

  1. Enwir y rhain (o gofnodion ei dad) yn llyfr O. Roger Owen,O Ben Moel Derwin, Cyhoeddiadau Mei, 1981.