Tom Huws
Roedd Y Prifardd Tom Huws yn frodor o'r Groeslon.
Bu'n athro mewn sawl ysgol, gan symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) fel athro Cymraeg cyn ymddeol yn 65 oed ym 1971.[1]
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun Cadwynau lle ymdrinodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau:
Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog, Stelcian, stilio a sgwrs, Sgwrsio am waith. Nid oes gwaith, wrth gwrs!
Torri eu henwau ddydd Llun, a dydd Gwener, Loetran o gwmpas Tŷ'r Crydd a'r Lôn Newydd, A gwybod na ddychwel fyth hen lawenydd.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma