Nebo
Pentref bach ar gwr y mynydd agored yw Nebo. Saif ym mhlwyf Llanllyfni. Cyn codi'r tai a'r tyddynod yn y 19g i ddiwallu anghenion chwarelwyr a weithiai yn y chwareli ar lethrau Dyffryn Nantlle islaw'r pentref i'r gogledd, elwid yr ardal agored hon yn Fynydd Llanllyfni. Enwid y pentref ar ôl y capel a godwyd.
Arferai fod siop a swyddfa bost yma. Erys yr ysgol fach yn agored hyd yma (2018), a gwasanaethir y pentref gan wasanaethau bysiau sawl gwaith y dydd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma