Carreg fellt Pontlyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:44, 11 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Carreg fellt Pontllyfni

Mae Pontllyfni yn enwog hefyd ym myd seryddiaeth am ddigwyddiad ym mis Ebrill 1931, pan syrthiodd maen awyr (neu 'garreg fellt') i'r ddaear ar dir fferm Coch-y-bug wedi sŵn aruthrol dros ardal eang. Dyma beth mae'r cylchgrawn Y Gwyddonydd yn ei ddweud am y lle y glaniodd y garreg fellt:

"Disgynnodd bedwar cam o'r lle yr oedd gŵr y fferm, y diweddar John Lloyd Jones a'i fab John Aneuryn Jones, yn sefyll, ac fe suddodd droedfedd mewn daear galed. Pan dyn-nwyd ef allan o'r twll yr oedd yn gynnes ac o liw llwyd-las."[1]

Bu cryn helbul wedyn hefyd wrth i'r Amgueddfa Brydeiniggeisio prynu'r garreg fellt gan y perchennog newydd, Mr John R Jones o ardal Llanrhystud - gwrthododd yntau'i werthu. Ym 1977 cyflwynodd y garreg i'r amgueddfa. Sonnir am y garreg fellt fel "The Pontllyfni meteorite" yn y papurau seryddol - ond dan y sillafiad amgen 'Pontlyfni' yn aml y'i rhestrir. Dim ond dwy garreg fellt sydd erioed wedi taro'r ddaear yng Nghymru i sicrwydd: y naill ym Mhontlyfni a'r llall tua bymtheg milltir i ffwrdd ochr bella crib Nantlle, ym Meddgelert ym 1949.[2][3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Gwyddonydd
  2. Gwefan Bryn Jones
  3. Gwybodaeth gan Wicipedia