Cwmni Crefft Dolydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:12, 23 Mai 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Cwmni Crefft Dolydd gan gyn-weithiwr Cwmni Ferodo, Bernard Mostyn, a'i wraig, yn eu cartref, Pen'rallt, Dolydd yn y 1970au. Roedd y cwmni'n cynhyrchu nwyddau o lechen, gan arbenigo mewn turnio llechen i greu pethau fel blychau llwch i ysmygwyr, potiau a phowlenni a matiau llechen crwn. Weithiau, argraffwyd lluniau ar y matiau trwy dechneg sgrîn sidan. Bu'r nwyddau'n cael eu cynhyrchu dros gyfnod o ryw 15 mlynedd, gan werthu eu nwyddau mewn ffeiriau crefft a thrwy siopau twristiaid yn yr ardal. Gan fod y llechen a ddefnyddid fel arfer yn sgil-gynnyrch Gwaith Llechi Inigo Jones, a honno'n dod o Aberllefenni lle ceir llai o hollt yn y garreg, roedd y cynnyrch o safon uwch na'r cyffredin, oherwydd y gallu i lyfnu'r llechen yn arbennig o dda. Gellir adnabod y darnau gorau o waith y cwmni oherwydd symlrwydd a chwaeth y dyluniad, a oedd yn godi uwchlaw'r cynnyrch arferol a wnaed yn gyffredinol. Gosodwyd label hefyd o dan y darnau.