Afon Drws-y-coed
Afon Drws-y-coed yw'r enw a roddir fel arfer ar yr afon sy'n llifo i mewn i Lyn Nantlle Uchaf, er, mewn gwirionedd, rhan uchaf Afon Llyfnwy ydyw. Mae ei tharddiad yng nghorsydd Bwlch-y-moch uwchben Drws-y-coed a Rhyd-ddu.
Defnyddid dŵr yr afon i droi peiriannau'r gwaith metel yn Nrws-y-coed, a golchi'r mwynau.