Saron
Mae Saron yn bentref a saif o bobtu'r ffordd o Gaernarfon i Landwrog, nid nepell o Felinwnda a'r Bont-faen. Mae yma tua dwsin o dai annedd moel a godwyd dros ganrif yn ôl, ynghyd ag ystad o ryw 16 o dai a godwyd gan y Cyngor Dosbarth yn wreiddiol fel cartrefi i weithwyr fferm yr ardal. Mae'r pentref wedi ei enwi ar ôl capel Saron, capel yr Annibynwyr (sydd yn dal yn agored (2018)). Unig gyfleuster arall y pentref yw cae chwarae ar gyfer plant y pentref, a agorwyd tua 2010.
Mae rhan o bentref Bethel ger Caernarfon hefyd yn cael ei alw'n Saron, ac felly weithiau fe gyfeirir at y pentref hwn fel Saron, Llanwnda.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma