Angharad James

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:14, 3 Mai 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Angharad James yn y Gelli-ffrydiau, Nantlle, 16 Gorffennaf 1677, yn ferch i James Davies ac Angharad Humphrey. Priododd, yn ferch ifanc 20 oed, William Prichard (g.1638), ffermwr Penamnen ym mhlwyf Dolwyddelan, oedd tua 60 oed. Roedd ganddynt o leiaf un mab, Dafydd, a farwodd o flaen ei fam. Ar ol colli ei gŵr ym 1718,[1] bu'n ffermio ar ei chownt ei hun ym Mhenamnen am weddill ei hoes.

Yn ôl y sôn, roedd hi'n delynores fedrus ac yn deall y gyfraith yn dda. Roedd ganddi wybodaeth o Ladin a Saesneg. Mae ei henwogrwydd yn dibynnu heddiw ar ddau beth: roedd hi'n fardd o gryn allu, gan adael lawysgrifau o farddoniaeth ar ei hôl - peth prin ymysg merched y 18g efallai; roedd hi hefyd yn un o hynafiaid John Jones (Tal-y-sarn) - ac, o ran hynny, William Hobley, y pregethwr, diwinydd a hanesydd o Gaernarfon.

Bu farw Awst 1749 a chael ei chladdu yn Eglwys Dolwyddelan.[2]

Mae ei hanes i'w gael yn erthygl Nia Mai Jenkins, A’i Gyrfa Megis Gwerful’: Bywyd a Gwaith Angharad James, (Llên Cymru, Cyf. 24 (2001)).

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gaslight Family History, Williams, Bracher, Marley families [1] adalwyd 03.05.2018
  2. Wicipedia. [2]