Capel Moreia (A), Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:42, 30 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd achos yr Annibynwyr yn Llanllyfni gyda chymorth Y Parch. William Ambrose o Borthmadog, ac roedd gan yr aelodau cyntaf o’r Annibynwyr gytundeb i ddefnyddio Capel y Bedyddwyr yn y Felin Gerrig, ar yr amod bod y ddau gorff yn cyd-addoli pob rhyw fis neu ddau. Cyflwynwyd y bregeth gyntaf 12fed o Chwefror 1868 gan y Parch. John Davies, Nasareth.

Yn 1870 penderfynodd yr Annibynwyr adeiladu eu capel eu hunain yn Llanllyfni ac agorwyd Capel Moreia yn swyddogol ym 1871.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau