Mynyddfor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:27, 14 Ebrill 2018 gan Llifon (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mynyddfor yw prif enw un o'r mynyddoedd yng Nghwmwd Uwch Gwyrfai. Ei uchder uwchben y môr yw nnn troefedd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Daeareg

Cnewyllyn hen losgfynydd yw Mynyddfor, o natur rheioleit asidig.

Llusdyfiant

Oherwydd ei natur asidig, mathau o rug a llus sydd un tyfu yno.

Enwau eraill

Mae nifer o enwau a ffurfiau ar yr enw y gellir eu dosbarthu yn fras yn ôl amser. "Nyddfor" oedd enw trigolion Waunfawr ar y mynydd, sef talfyriad o "Mynyddfor". Mae hwn bellach wedi ei ddisodli ar fapiau'r Arolwg Ordnans fel Mynydd Mawr. Adwaenir y mynydd o ochr Dyffryn Nantlle fel Mynydd y Grug yn unig.

O thua dechrau'r 19g. gwelodd rhai (ymwelwyr efallai) ffurf eliffant ar y mynydd ac fe'i ail fedyddwyd yn Saesneg fel Elephant Mountain ac yn Gymraeg fel Mynydd yr Eliffant neu 'Reliffant.

Mae enwau penodol ar sawl rhan o Fynyddfor, gan gynnwys Craig y Bere, Cwm Bychan, Castell Cidwm.

yn ymddangos fel horwth o eliffant a'i drwnc yn sipian o ddŵr Llyn Cwellyn. Yr Eliffant yw'r enw cyffredin a roddir arno, ond ar fapiau Arolwg Ordnans (SH 539 546) ceir Mynydd Mawr fel enw mwy syber a swyddogol. Serch hynny Mynyddfawr ac nid Mynydd Mawr yw'r enw parchus a roddir arno'n lleol – neu o leiaf dyna'r enw a arferid gynt gan drigolion yr ardal, mae dylanwad yr hyn a welir ar fapiau swyddogol yn gryf ar yr hyn sy'n cael ei ddweud. Pa dystiolaeth heblaw mympwy bersonol a allaf ei gynnig dros Mynyddfawr? Arferai fy nhad a anwyd ac a fagwyd yn y Waun-fawr gyfeirio at y mynydd fel Mynyddfawr (a'i ynganu M'nyddfawr, gyda'r acen ar yr - ydd-). Un arall a fagwyd yn y Waun ddechrau'r ugeinfed ganrif oedd yr athronydd a'r ysgolhaig Hywel D Lewis; yng nghanol y chwedegau bu'n traddodi Darlithoedd Gifford ar Freedom and Alienation, ac yn ei ragymadrodd mae'n sôn am ei fachgendod yn yr ardal: 'Moel Eilian had spewed up at some time from the