Hengwm, Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:07, 14 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffermdy ym mhlwyf Clynnog yw Hengwm..

Cyn diddymu'r mynachlogydd ym 1536 roedd Hengwm yn rhan o faenor fynachaidd Cwm a oedd yn eiddo i Abaty Aberconwy. Ceir y cyfeiriad cyntaf at y faenor mewn siarter a roddwyd gan Lywelyn Fawr tua 1201, ond mae'n bosibl ei bod yn rhan o'r tir gwreiddiol a roddwyd ganddo i'r abaty ym 1192.r Ar ôl diddymu'r mychachlogydd aeth y Faenor i ddwylo'r Goro, a'i rhoddodd ar brydles i Syr John Puleston.

Erbyn 1638 roedd Hengwm yn eiddo i William Gruffydd o Gaernarfon a Gruffyth Jines, Castellmarch, Priododd Mary, merch William Gruffydd, âSyr William Williams o'r Faenol. Bu farw Syr William ym 1696, a cheir cyfeiriad at Hengwm yn llyfr rhent Stad y Faenol am y flwyddyn honno. Catrin Siôn oee enw'r tenant. Rhoddwyd Hengwm ar y farchnad gan Stad y Faenol ym 1890 ac eto ym 1907, pan werthwyd rhannau helaeth o dir y stad a oedd ar y cyrion yn Llŷn, ond ymddengys na Chafodd y fferm ei gwerthu hyd 1948, Fe'i prynwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth