Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda
Saif eglwys Gwyndaf Sant yn Esgobaeth Bangor, tua hanner ffordd rhwng Llandudno yn y gogledd Ddwyrain ac Ynys Enlli yn y de orllewin. Dywed traddodiad fod Gwyndaf Hên yn un o feibion Emyr Llydaw. Ebrill 21ain yw ei Wylmabsant. Ail-adeiladwyd yr eglwys yn gyfangwbl yn y flwyddyn 1847. Ar un adeg, safai porth elor yn y fynedfa. Tynnwyd yr oriel yn ystod newidiadau i'r eglwys ym 1964 ac ail-ymroddwyd yr eglwys ar 3 Gorffennaf 1964 gan yr Gwir Barchedig G. O.Williams, Esgob Bangor.
Mae’n adeilad rhestredig Gradd II* ers 1968.