Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:50, 14 Ebrill 2018 gan Twiglet48 (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda tua 1855
Eglwys Sant Gwyndaf 2009

Saif eglwys Gwyndaf Sant yn Esgobaeth Bangor, tua hanner ffordd rhwng Llandudno yn y gogledd Ddwyrain ac Ynys Enlli yn y de orllewin. Dywed traddodiad fod Gwyndaf Hên yn un o feibion Emyr Llydaw. Ebrill 21ain yw ei Wylmabsant. Ail-adeiladwyd yr eglwys yn gyfangwbl yn y flwyddyn 1847. Ar un adeg, safai porth mynwent yn y fynedfa.